Error loading page.
Try refreshing the page. If that doesn't work, there may be a network issue, and you can use our self test page to see what's preventing the page from loading.
Learn more about possible network issues or contact support for more help.

Cara

Haf 2024
Magazine

Cylchgrawn lliwgar, 72 tudalen, gan ferched am ferched Cymru. Mae'n llawn erthyglau ar iechyd, ffasiwn, teithio, bwyd, materion cyfoes, steilio cartref a llawer mwy!

Bwrw bol

Dagrau o’r un lliw • Mae’r newyddiadurwraig a’r ffotograffydd CAITLIN KELLY wedi treulio amser yn Jerwsalem yn ddiweddar. Dyma’i hargraffiadau wrth siarad â menywod am y rhyfel rhwng Israel a Hamas.

Pontypridd • NERYS WYN DAVIES A LOIS ROBERTS sy’n ein tywys drwy Bontypridd a’r fro.

Mererid Hopwood

Ponty • Mae Cara wedi comisiynu BECKY DAVIES, darlunydd proffesiynol o Bontypridd, i greu darlun o’r Lido. Mae pedair o’r ardal wedi sgwennu am eu hargraffiadau nhw o’r dref hefyd.

Awr fach ym Mhonty

Eiliadau prin

Fi sydd biau Pontypridd

Troi’n anifail… • Mae printiau croen anifail yma i aros, yn ôl ein harbenigwr ffasiwn, HELEN ANGHARAD HUMPHREYS.

Colur haf • Mae EMMA JENKINS yn artist colur wrth ei gwaith bob dydd ac yn rhannu cynghorion am golur yr haf gyda Cara.

Blasau’r haf • DELYTH HUW THOMAS sydd yn dewis ryseitiau i chi unwaith eto yn y rhifyn hwn, gan ddod â rhywfaint o sbeis a bwyd o wledydd Môr y Canoldir.

Paru bwyd a gwin • Mae Deian Benjamin o wefan gwinamwy.com yn argymell y gwinoedd yma, sy’n paru’n berffaith â ryseitiau Delyth. Gallwch ddewis gwin o’r archfarchnad leol a/neu win o Gymru. Ewch i’r wefan am fwy o gynghorion a gwybodaeth am bob math o winoedd.

Tocio, dyfrio, hau • NAOMI SAUNDERS sy’n rhoi cyngor i ni eto ar y gwaith garddio sydd i’w wneud dros fisoedd yr haf.

Mân bethau, effaith fawr • Dyma gynghorion ar sut i wella steil eich cartref gan NIA JENKINS o gwmni Lwli Mabi.

Pop o liw • Y tro hwn, cwmni gemwaith Fizz Goes Pop sy’n cael sylw SARA GIBSON, sydd wedi bod yn sgwrsio â’r sylfaenydd.

Merch, Mam, Mam-gu • Mae ANGHARAD MAIR a TANWEN CRAY yn wynebau cyfarwydd ar S4C ac mae Cara wedi bod yn siarad â’r ddwy am eu perthynas.

BYD BETHAN • JYGLO GWAITH A GWYLIAU

Agor drysau • Mae E’ZZATI ARIFFIN yn dod o Brunei yn ne-ddwyrain Asia yn wreiddiol, ond mae hi wedi ymgartrefu yng Nghymru ar ôl bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bywyd cymdeithasol ar ei orau! • GWENAN IOLO sy’n adrodd ei hanes yn byw yn Valencia, yn ne-ddwyrain Sbaen.

VALENCIA • Mae ardal Valencia yn nwyrain Sbaen mewn tair rhan – Castellón yn y gogledd, Valencia yn y canol, ac Alicante yn y de, ar hyd dros 630km o arfordir Môr y Canoldir. Dinas Valencia yw trydedd ddinas fwyaf Sbaen.

Mae’n iawn i beidio â bod yn iawn • O fewn blwyddyn trodd bywyd MARI ben i waered, ac mae’n awyddus i rannu ei phrofiad i helpu eraill.

CYMRYD Y CYFLE • Dyma stori ysbrydoledig JANE AMELIA HARRIES sydd wedi wynebu nifer o heriau, cyn paratoi am yr her fwyaf un, yr IRONMAN 70.3.

Byw gyda bag stoma • Mae Cara wedi bod yn siarad â dwy sy’n gorfod gwisgo bag stoma, a dyma straeon SOPHIA HADEN a JUDITH OWEN

Beth yw stoma?

Eglwys Betws Pen-pont • Y tro hwn, mae EFA LOIS yn trafod rhai o adeiladau’r pensaer enwog George Gilbert Scott.

Llyfrau’r haf ADOLYGIADAU

Marathon, sioe a steddfod! • Mae ELEN JONES yn gweithio fel ymchwilydd i gwmni teledu Tinopolis, a dyma dair eitem sy’n aros yn y cof ganddi

Syllu ar y Sêr

HEN WLAD FY MAMAU • Rhai o fenywod ysbrydoledig ardal Rhondda Cynon Taf sy’n cael sylw yn ein cyfres Merched mewn Hanes y tro hwn.

LLEISIAU CYMRU • 1 mewn 2 MARI GRUG

Formats

  • OverDrive Magazine

Languages

  • Welsh