Cylchgrawn lliwgar, 72 tudalen, gan ferched am ferched Cymru. Mae'n llawn erthyglau ar iechyd, ffasiwn, teithio, bwyd, materion cyfoes, steilio cartref a llawer mwy!
Golygyddol
Cara
Un pâr o nics ar y tro…
Dawnsio yn y glaw? • Yn dilyn yr erthygl yn rhifyn haf 2024, ‘Byw gyda bag stoma’, mae Cara wedi gofyn i dair menyw sôn am eu profiadau o fyw gyda chadair olwyn.
O Gwm Llynfi i UEFA • Mae LAURA MCALLISTER CBE wedi bod yn siarad â Cara am ei bywyd prysur a’r dylanwadau sydd wedi bod arni, yn bennaf ym myd chwaraeon a gwleidyddiaeth.
Titws Taf • Mae’n her cynnal clwb o unrhyw fath, ac mae hynny’n wir am glwb pêl-droed menywod yng Nghaerdydd hefyd. Dyma nhw’n dweud eu hanes.
BYD BETHAN REBECCA CHEPTEGEI. WYT TI´N NABOD YR ENW?
Rhian Blythe
Dos o Gymreictod! • Aeth ESYLLT NEST ROBERTS DE LEWIS i Batagonia i weithio fel athrawes, ac yno y mae hi o hyd. Bu’n siarad â Cara am ei bywyd yn y Gaiman.
Genod y Gaiman • Dyma erthygl yn seiliedig ar gyfweliadau a phrofiadau GWENLLÏAN DAVIES ym Mhatagonia.
Hud a lledrith Caerfyrddin • Mae CATRIN FORMOSA yn teimlo’n angerddol am ei thref ac yn awyddus i hybu Caerfyrddin fel lle delfrydol i ymweld ag e.
Camper, corgi, celf! • Yr artistiaid JOANNA a MEIRION JONES sy’n dechrau cyfres newydd o erthyglau yn trafod perthynas pâr.
Merch amherthnasol
Anrhegion Nadolig • Mae dewis anrhegion yn gallu bod yn anodd, felly gobeithio y bydd y detholiad yma o gynnyrch Cymreig yn help i chi benderfynu ar ambell un. A gallwch wneud y siopa o’ch soffa gyfforddus!
Siwmperi cynnes, clyd • Y tro hwn mae ein harbenigwraig ffasiwn, HELEN ANGHARAD HUMPHREYS, yn edrych ar un o ffasiynau’r gaeaf, y siwmper Fair Isle, sy’n eitem oesol mewn unrhyw gwpwrdd dillad.
Pryd i’r gaeaf • Yn ôl DELYTH HUW THOMAS, daw dyddiau oer a nosweithiau tywyll â’r awydd i glosio at y tân ac i gymryd amser i baratoi prydau maethlon, llawn cysur.
argymhellion diod
Meithrin yr ardd yn y misoedd oer • NAOMI SAUNDERS sy’n rhoi cyngor ar beth i’w wneud yn yr ardd dros y gaeaf.
Rhoi’r gair ar led • Mae BETHAN DAVIES, sy’n byw ym Mhentyrch ger Caerdydd, yn dioddef o glefyd Addison. Bu’n siarad â Cara am ei stori ingol.
Drysfa’r ysbyty meddwl • Yn ei herthygl olaf, mae’r colofnydd pensaernïaeth EFA LOIS yn ein tywys drwy hanes adeilad Ysbyty Meddwl Caerdydd yn yr Eglwys Newydd.
Croeso! • Mae SIWAN a DARYL DAVIES yn adnewyddu hen dŷ yn Sir Gâr, a byddan nhw’n rhannu’r daith gyda darllenwyr Cara, gan ddechrau drwy sôn am gadw cymeriad y lle.
Ma Mega yn mega! • Mae Cwmni Mega yn 30 oed eleni ac mae eu pantomeim blynyddol wedi diddanu miloedd o blant ac oedolion dros y blynyddoedd. LISA MARGED sy’n adrodd yr hanes.
Jeia yn joio • Gohebydd yw JEIA PURI-EVANS, a dyma hi’n sôn am daith wnaeth hi i ardal Ffestiniog ar gyfer rhaglenni Tinopolis.
NOSON YSBRYDOLEDIG • Ym mis Medi cawson ni, dîm Cara, y fraint o gael ein gwahodd i noson wobrwyo Gwobrau Llais Awards.
Dathlu cawres lenyddol • Ym mis Mehefin eleni, cafodd plac porffor ei ddadorchuddio ar gartref y nofelwraig BERNICE RUBENS ym Mhenylan, Caerdydd i gofnodi ei chyfraniad a’i gorchestion.
Syllu ar y Sêr • Nadolig llawen a blwyddyn newydd lewyrchus ac iach i holl ddarllenwyr Cara. Mae’r blaned Pluto yn tanlinellu’r cynnydd mewn technoleg a gwirio dilysrwydd a thwyll trwy AI. Mae llawer yn awyddus i dorri’n rhydd, tra bod Neifion yn rhoi cyfnod creadigol ac artistig i ni.
Llyfrau’r Nadolig • Mae llond silff o lyfrau newydd ar gael eleni eto. Dyma ambell un y mae Cara yn ei argymell, ond ewch i’ch siop lyfrau leol er mwyn gweld y dewis eang sydd ar gael. Mae hen ddigon o ddewis ar gyfer unrhyw hosan Dolig!
Danteithion Cara