Error loading page.
Try refreshing the page. If that doesn't work, there may be a network issue, and you can use our self test page to see what's preventing the page from loading.
Learn more about possible network issues or contact support for more help.

Cara

Gwanwyn 2025
Magazine

Cylchgrawn lliwgar, 72 tudalen, gan ferched am ferched Cymru. Mae'n llawn erthyglau ar iechyd, ffasiwn, teithio, bwyd, materion cyfoes, steilio cartref a llawer mwy!

Golygyddol

Cara

Geni eliffant ar goeden gelyn

Lliw coffi a siocled • Mocha Mousse yw lliw Pantone am 2025. Dyma ambell syniad am sut y gallwch chi ei ymgorffori yn eich bywyd eleni.

AI – GELYN NEU FFRIND? • Sut gall AI (deallusrwydd artiffisial) roi hwb i ddatblygiad personol a phroffesiynol? Dyna’r cwestiwn y mae LOIS MCGRATH yn ei drafod yma.

Angladdau • Mewn erthygl estynedig, mae Cara wedi holi pobl sydd ynghlwm â’r diwydiant angladdau am yr hyn sy’n digwydd ar ôl colli rhywun annwyl.

BYD BETHAN • PERYGL TWF YR ASGELL DDE

Catrin Heledd • Betsi, Prosecco a lip gloss

Gwaith a gwaith… a gwyliau! • GWENNO PENRHYN a MARK LEWIS JONES sy’n sôn am eu perthynas yn y gyfres Pâr Cara y tro hwn.

YR OCHR ARALL • Dyletswydd i weithredu

Wedi newid fy mywyd! • Baswnydd o’r Alban yw ALANNA PENNAR-MACFARLANE, felly pam dysgu Cymraeg?

Byw yn haul Califfornia • Mae CATRIN PHILLIPS yn byw yng Nghaliffornia ac wedi cymryd amser o’i gwaith fel bydwraig i siarad â Cara.

48 awr yn… Sacramento

I’r Wyddgrug gyda Nanw • Y tro hwn, NANW MAELOR sy’n rhannu hanes ac atgofion am y dref lle cafodd hi ei magu.

Trafod toes • Mae DELYTH HUW THOMAS yn mynd ar drywydd pobi y tro hwn ac yn llenwi’r gegin ag arogl bendigedig!

Diodydd dialcohol • Deian Benjamin, arbenigwr gwin a diodydd Prynhawn Da a Bore Cothi, sy’n esbonio poblogrwydd diodydd dialcohol.

Ham d ena a chadw’n heini • Gyda’r dyddiau’n ymestyn, mae mwy o awydd gwneud rhywfaint o ymarfer corff. HELEN ANGHARAD HUMPHREYS sydd â chyngor ar beth i’w wisgo.

Lliwio gwefusau • Colurwraig yw LISA PUGH ac mae hi’n rhannu ei chyngor â Cara am y ffenomen newydd o liwio gwefusau.

Byw gydag anabledd cudd • Yn dilyn y ddwy erthygl flaenorol yn y gyfres BYW GYDA…, dyma hanes CERYS DAVAGE, sy’n trafod ei bywyd gydag anabledd cudd, sef math penodol o glefyd ar y cyhyrau.

NIWED Y NARSISYDD • Mae ELIN PRYDDERCH yn cefnogi menywod gyda hunan-les a’r menopos. Yma mae’n trafod nodweddion narsisydd ac effaith hynny ar y partner.

fel yr wyt • GWENNAN EVANS, Golygydd Creadigol a Rheolwr Rhaglen Gyhoeddi Sebra ac un o gyfranwyr fel yr wyt, sy’n rhoi blas i ni ar y gyfrol newydd.

Balchder, a bod yn fam • LLINOS DAFYDD sy’n trafod ei pherthynas â’i phlentyn hynaf, Aeron, yn y gyntaf mewn cyfres o erthyglau newydd, FEL MAM.

Darllen hen dai • Yn ei herthygl gyntaf i Cara, mae Bethan Scorey yn edrych ar dai Tuduraidd.

Garddio ecogyfeillgar • Mae NAOMI SAUNDERS yn rhoi cyngor y tro hwn ynglŷn â garddio mewn byd sydd â’i hinsawdd yn newid.

Stafelloedd y merched • Yn yr ail erthygl am adnewyddu ei chartref, mae SIWAN DAVIES yn rhannu cynghorion ynglŷn â chreu stafelloedd gwely hyfryd i’w merched, Jena a Cati.

Barry, Liam a Seimon • Mae FFION CONNICK yn gweithio fel ymchwilydd i gwmni Tinopolis ac mae’n sôn wrth Cara am yr eitemau wnaeth argraff arni.

Gwanwyn 2025 Syllu ar y Sêr

Celf Claudia • MARI ELIN JONES sy’n cloriannu pwysigrwydd Claudia Williams, un o artistiaid enwocaf Cymru’r ugeinfed ganrif.

Cara • Cylchgrawn i fenywod. Gan fenywod. Am fenywod.

Formats

  • OverDrive Magazine

Languages

  • Welsh